Glan-llyn

UrddGobaithCymru
UrddGobaithCymru
14.2 هزار بار بازدید - 14 سال پیش - Canolfan breswyl aml weithgaredd yw
Canolfan breswyl aml weithgaredd yw Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Saif y gwersyll ar lan Llyn Tegid ger y Bala rhyw filltir o bentref Llanuwchllyn yng nghysgod yr Aran ac oddi fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ei leoliad yn ddelfrydol ar gyfer pob math o wyliau a chyrsiau antur.

Sefydlwyd Glan-llyn fel canolfan awyr agored yn ôl yn 1950 ac mae'n rhan o fudiad Urdd Gobaith Cymru, sef prif fudiad Ieuenctid Cymru. Erbyn hyn ceir llety i 230 o wersyllwyr, gweithgareddau cyffrous, adnoddau a chyfleusterau heb eu hail ac mae gan y gwersyll y gallu i gynnig pob math o gyrsiau ar gyfer pawb.

Gwersyll yr Urdd Glan-llyn is a multi activity centre situated on the shores of Llyn Tegid, near Y Bala, a mile from the village of Llanuwchllyn in the shadow of the Aran and within Eryri, Snowdonia National Park. It is an ideal location for all types of holidays and activity courses.

Glan-llyn was established as an outdoor activity centre in 1950 and it is part of the Urdd, the largest youth movement in Wales. By now, it can cater for 230 residents, it has exiting activities, resources and facilities second to none and can offer all types of courses for everybody.
14 سال پیش در تاریخ 1389/06/17 منتشر شده است.
14,268 بـار بازدید شده
... بیشتر