Dafydd Iwan ac Edward - Mae'n Wlad i Mi

Noson Lawen
Noson Lawen
211.1 هزار بار بازدید - 12 سال پیش - Gredwch chi byth, ond mae
Gredwch chi byth, ond mae Dafydd Iwan wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru am hanner canrif eleni. Ac ers y cychwyn cyntaf, yn Abergwaun yn 1962, mae ei ganeuon wedi gafael ym mhobl Cymru fel cyfeiliant i hanes Cymru dros y hanner can mlynedd ddiwethaf.   Haf 1962, cychwynnodd Dafydd Iwan ar ei daith fel canwr. Mae'n wir ei fod wedi bod ar lwyfan sawl Eisteddfod leol cyn hynny, a hefyd wedi ennill llu o ddilynwyr yng Ngwersyll Glanllyn, ond yn Abergwaun y canodd yn ei gyngerdd 'swyddogol' cyntaf. Arweiniodd hynny at ragor o nosweithiau o bob math, cyn iddo gael ei gornel ei hun bob nos Fercher ar raglen 'Y Dydd' TWW, cytundeb recordio gan Welsh Teldisc, ac y mae'r gweddill yn hanes eithaf cyfarwydd.
Mae Edward yn gyn brifathro Ysgol Llandegfan, Ynys Môn.  Bellach wedi ymddeol ac yn mwynhau canu gyda Chôr Godre'r Aran.  Wedi bod yn weithgar iawn gyda'r dysgwyr ar hyd y blynyddoedd, pryd y bydd yn arwain sesiynau canu i gyfeiliant ei gitâr.
12 سال پیش در تاریخ 1391/08/09 منتشر شده است.
211,171 بـار بازدید شده
... بیشتر